Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a’r Cwricwlwm i Gymru (2022): Synergeddau a Chyfleoedd

Yn y papur hwn, rydym yn amlinellu’r maes academaidd a elwir yn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, maes amlddisgyblaethol a rhyngwladol sy’n rhoi profiad bywyd plant a phobl ifanc wrth galon a chraidd trafodaethau, ymchwil ac ymarfer. Dros y 30-40 mlynedd diwethaf, mae Astudiaethau Plentyndod ac...

Ausführliche Beschreibung

Gespeichert in:
Bibliographische Detailangaben
Veröffentlicht in:Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education 2024-07, Vol.26 (1)
Hauptverfasser: Underwood, Clive, Thomas, Enlli, Smith, Anne-Marie, Williams, Nia, Kyffin, Fliss, Young, Nia
Format: Artikel
Sprache:eng
Online-Zugang:Volltext
Tags: Tag hinzufügen
Keine Tags, Fügen Sie den ersten Tag hinzu!
Beschreibung
Zusammenfassung:Yn y papur hwn, rydym yn amlinellu’r maes academaidd a elwir yn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, maes amlddisgyblaethol a rhyngwladol sy’n rhoi profiad bywyd plant a phobl ifanc wrth galon a chraidd trafodaethau, ymchwil ac ymarfer. Dros y 30-40 mlynedd diwethaf, mae Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid wedi datblygu’n faes ysgolheictod arwahanol sy’n cael ei ddylanwadu gan syniadau sy’n deillio o feysydd cymdeithaseg, anthropoleg, seicoleg, daearyddiaeth a hanes. Mae ein papur yn trafod pa mor berthnasol yw’r syniadau allweddol hyn i waith athrawon ac arweinwyr ysgolion o fewn cyd-destun y Cwricwlwm i Gymru (2022), lle rhoddir y plentyn wrth galon a chraidd dull cyfannol o ymdrin ag addysg. Mae hyn yn cynnig cyfle i gydnabod synergeddau posibl rhwng addysg ac Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid fel disgyblaethau perthynol a chydategol. Awgrymwn fod yna ddadl y dylai pob athro a darparwr addysg gychwynnol i athrawon (AGA) ddeall Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ac ymwneud â’r maes academaidd hwn – maes sy’n canolbwyntio ar gydnabod bod plant a phobl ifanc yn fodau cymdeithasol a chanddynt hawliau a galluedd mewn cymdeithas. Tynnwn sylw at faterion a meysydd allweddol sy’n berthnasol i waith athrawon, arweinwyr ysgolion ac addysgwyr ar draws gwahanol gyd-destunau, gan ddangos sut y gall Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid weithredu fel pont rhwng ysgolion a byd cymdeithasol ehangach plant a phobl ifanc, trwy gyfrwng ymchwil ac addysgu sy’n ymwneud â materion sy’n berthnasol i blentyndod ac ieuenctid cyfoes. Fel gwrwˆ p o ddarlithwyr sy’n addysgu cyrsiau gradd ac ôl-radd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, cynigiwn fod angen gwell deialog a dealltwriaeth rhwng Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid fel maes ysgolheictod ar y naill law ac addysg gychwynnol i athrawon ar y llaw arall.
ISSN:2059-3708
2059-3716
DOI:10.16922/wje.26.1.1cym